Rate Rises in April 2023 – Numbers to Know
Key Contact: Claire Knowles
Author: Swyn Llyr
This April will see a number of increases to rights and remuneration rates affecting current employees and new hires.
National Minimum Wage
We will see a significant increase of 9.7% to the National Living Wage (NLW) in April 2023, and the National Minimum Wage (NMW) rates will also increase after the government accepted the Low Pay Commission’s recommendations in full.
The new rates to apply from 1 April 2023 will be as follows:
April 2022 | April 2023 (new rate) | |
Age 23 and over (NLW) | £9.50 | £10.42 |
Age 21 – 22 | £9.18 | £10.18 |
Age 18 – 20 | £6.83 | £7.49 |
Under 18 | £4.81 | £5.28 |
Apprentice Rate | £4.81 | £5.28 |
Accommodation Offset | £8.70 | £9.10 |
Statutory Sick Pay
Entitlement to statutory sick pay (SSP) is triggered from the fourth day of incapacity onwards and lasts up to 28 weeks. The weekly SSP rate for 2022/23 was £99.35, which is increased to £109.40 from 6 April 2023.
Statutory Maternity and Paternity Pay
Statutory family-related pay including maternity, paternity, adoption, parental bereavement, and shared parental pay are calculated, at various stages, by reference to the ‘Prescribed Rate’. This rate is set by the government each year and takes effect from the first Sunday in April which, this year, will be 2 April 2023. After the first six weeks of maternity or adoption leave at 90% of average weekly earnings, the employee’s entitlement becomes capped at the Prescribed Rate for the remaining 33 weeks of statutory pay entitlement. The Prescribed Rate cap also applies to paternity pay, parental bereavement pay, and any shared parental pay. From April 2023, we will see an increase from £156.66 to £172.48 per week.
In light of the ongoing inflation and rising costs, employees are likely to naturally welcome the increases in pay, whereas employers may be concerned about the extra costs imposed on their business.
If you have any questions about the new rates, please contact our Employment team.
Cynnydd Mewn Cyfraddau Cyflogaeth
Ym mis Ebrill eleni fe welwn gynnydd mewn hawliau a chyfraddau tâl statudol cyflogeion presennol a darpar gyflogeion.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Byddwn yn gweld cynnydd sylweddol o 9.7% i’r Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 23 oed a throsodd) ym mis Ebrill 2023, a bydd cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i’r rhai o oed gadael ysgol o leiaf) hefyd yn cynyddu wedi i’r Llywodraeth dderbyn argymhellion Y Comisiwn Cyflogau Isel yn llawn.
Bydd y cyfraddau newydd a ddaw i rym o 1 Ebrill 2023 ymlaen fel a ganlyn:
Ebrill 2022 | Ebrill 2023 (cyfraddau newydd) | |
Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) | £9.50 | £10.42 |
Oedran 21 – 22 | £9.18 | £10.18 |
Oedran 18 – 20 | £6.83 | £7.49 |
O dan 18 | £4.81 | £5.28 |
Cyflog Prentisiaeth | £4.81 | £5.28 |
Tâl Salwch Statudol
Mae tâl salwch statudol yn cael ei dalu pan fo cyflogai’n sâl am o leiaf 4 diwrnod yn olynol, hyd at gyfnod o 28 wythnos. Mae’r gyfradd tâl salwch statudol yn cynyddu ar 6 Ebrill 2023 o £99.35 i £109.40 yr wythnos.
Tâl Mamolaeth a Thadolaeth Statudol
Bydd cynnydd hefyd i’w weld yng nghyfraddau statudol tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, tâl mabwysiadu a thâl profedigaeth rhiant o 2 Ebrill 2023 ymlaen.
Y gyfradd wythnosol am y 6 wythnos gyntaf o absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu yw 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai. Wedi’r chwe wythnos gyntaf, y dâl mamolaeth a mabwysiadu statudol newydd yw £172.48 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf. Mae’r gyfradd hon hefyd yn berthnasol i dâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, a thâl profedigaeth rhiant.
Yn sgil y cyd-destun economaidd presennol, mae gweithwyr yn debygol o groesawu’r codiadau cyflog, ond fe all y cynnydd mewn cyfraddau cyflogaeth fod yn fwrn ar gyflogwyr, yn gost ychwanegol a osodir ar eu busnes.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cyfraddau newydd, cysylltwch â’r tîm Cyflogaeth.